OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 1102 (Cy. 110)
bwyd, cymru
Rheoliadau Trosglwyddo Swyddogaethau (Bwyd) (Cymru) 2014
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys i Gymru, yn diwygio Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000 (O.S. 2000/1866 (Cy.125)), Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Cymru) 2007 (O.S. 2007/1040 (Cy.100)), Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007 (O.S. 2007/2611 (Cy.222)), a Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3573 (Cy.316)), drwy drosglwyddo swyddogaethau maethiad o dan bob set o reoliadau o’r Asiantaeth Safonau Bwyd i Weinidogion Cymru.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 1102 (Cy. 110)
bwyd, cymru
Rheoliadau Trosglwyddo Swyddogaethau (Bwyd) (Cymru) 2014
Gwnaed 25 Ebrill 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 29 Ebrill 2014
Yn dod i rym 23 Mai 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 6(4), 16(1)(e) ac (f), 17(1) a (2), 26(1)(a) a (3) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990([1]).
Yn unol ag adran 48(4A) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trosglwyddo
Swyddogaethau (Bwyd) (Cymru) 2014.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Mai 2014 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000
2. Yn rheoliad 3 (cyfyngiadau ar werthu) o Reoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000([2]), ym mharagraff (3), is-baragraff (a), yn lle “yr Asiantaeth Safonau Bwyd” rhodder “Gweinidogion Cymru”.
Diwygio Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Cymru) 2007
3. Mae Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Cymru) 2007([3]) wedi eu diwygio fel a ganlyn:
(a) yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff 1 cyn y diffiniad o “awdurdod bwyd” mewnosoder—
“ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd;”; a
(b) yn rheoliad 3 (cyfyngiad ar werthu), paragraff 2, is-baragraff (a), yn lle “yr Asiantaeth Safonau Bwyd” rhodder “Gweinidogion Cymru”.
Diwygio Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007
4. Yn rheoliad 3 (awdurdodau cymwys) o Reoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007([4]), yn is-baragraff (a), yn lle “yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd” rhodder “yw Gweinidogion Cymru”.
Diwygio Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007
5. Mae Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007([5]) wedi eu diwygio fel a ganlyn:
(a) yn rheoliad 2 (dehongli) hepgorer y diffiniad o “yr Asiantaeth”; a
(b) yn rheoliad 13 (hysbysiad o fformiwla fabanod) yn lle “i’r Asiantaeth drwy anfon ati” rhodder “i Weinidogion Cymru drwy anfon atynt”.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
25 Ebrill 2014
([1]) 1990 p.16, fel y’i diwygiwyd. Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers” i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).